- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd rhestredig—
(a)ffurfio a gosod mynedfeydd, neu wella mynedfeydd presennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 3 (mynediad at weithfeydd) at y briffordd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno; a
(b)gyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd, ac nid yw'r cyfryw gymeradwyaeth i'w dal yn ôl yn afresymol, ffurfio a gosod mynedfeydd eraill, neu wella mynedfeydd presennol, yn y fath leoliadau o fewn terfynau'r Gorchymyn ag sydd yn rhesymol ofynnol gan yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Os yw awdurdod priffyrdd sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (1) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod yr awdurdod hwnnw wedi cydsynio iddo.
8.—(1) Caiff yr ymgymerwr adeiladu'r rheilffordd estyniadol fel ei fod yn mynd ar y gwastad ar draws llwybr troed FP 61 (“y llwybr troed”) 435 o fetrau i'r de-orllewin o Orsaf Carrog.
(2) Wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon caiff yr ymgymerwr altro lefel y llwybr troed.
(3) Yn ystod adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff yr ymgymerwr, wedi iddo ymgynghori â'r awdurdod strydoedd dros y llwybr troed, rwystro pawb am unrhyw gyfnod rhesymol rhag mynd ar hyd pa faint bynnag o'r llwybr troed ag sydd o fewn terfynau'r gwyriad.
(4) Caiff yr awdurdod priffyrdd a'r ymgymerwr wneud cytundebau mewn perthynas ag adeiladu a chynnal a chadw'r groesfan a awdurdodir gan yr erthygl hon; a chaiff cytundeb o'r fath gynnwys telerau o ran taliadau neu faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y partïon.
(5) Bydd gan unrhyw un sy'n cael colled oherwydd atal dros dro unrhyw hawl tramwy preifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael iawndal, y dyfernir arno, mewn achos o anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: