Search Legislation

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod strydoedd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “street authority” yn Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1);

  • ystyr “y CCC” (“the PLC”) yw Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Rheilffordd Llangollen plc, cwmni a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 2716476 a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN;

  • mae “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;

  • mae “cynnal a chadw” (“maintain”) yn cynnwys arolygu, trwsio, addasu, altro, symud ymaith, ail adeiladu ac amnewid, a rhaid dehongli “gwaith cynnal a chadw” (“maintenance”) yn unol â hynny;

  • mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, traen, camlas, toriad, cwlfert, arglawdd, llifddor, carthffos a llwybrau y mae dŵr yn llifo drwyddynt, ac eithrio carthffosydd neu draeniau cyhoeddus;

  • ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(2);

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);

  • ystyr “y gwaith rhestredig” (“the scheduled work”) yw'r gwaith a bennir yn Atodlen 1 (Gwaith rhestredig) neu unrhyw ran ohono;

  • ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gwaith rhestredig ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “yr hen reilffordd” (“the former railway”) yw'r rheilffordd neu'r hen reilffordd a awdurdodwyd gan Ddeddf Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1860(4) a pha faint bynnag o unrhyw reilffordd neu hen reilffordd arall ag sydd wedi'i lleoli o fewn terfynau'r Gorchymyn ynghyd â pha faint bynnag o bob gweithfeydd sy'n ymwneud â'r cyfryw reilffordd neu hen reilffordd ag sydd wedi'u lleoli felly;

  • mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag sydd i “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(5);

  • ystyr “planiau'r gweithfeydd” (“the works plans”) yw'r planiau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn blaniau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn.

  • mae i'r ymadroddion “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “highway” a “highway authority” yn Neddf y Priffyrdd 1980(6);

  • ystyr “y rheilffordd bresennol” (“the existing railway”) yw'r rheilffordd a awdurdodir gan Orchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984 ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno;

  • ystyr “y rheilffordd estyniadol” (“the extension railway”) yw'r rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno a chyn cwblhau unrhyw ran o'r rheilffordd estyniadol honno bydd yr ymadrodd hwnnw yn cynnwys safle'r rhan honno;

  • ystyr “y rheilffyrdd” (“the railways”) yw'r rheilffordd bresennol a'r rheilffordd estyniadol, neu'r naill neu'r llall ohonynt;

  • mae “stryd” (“street”) yn cynnwys rhan o stryd;

  • ystyr “terfynau'r Gorchymyn” (“the Order limits”) yw unrhyw derfynau gwyriad a'r terfynau pellach;

  • ystyr “terfynau'r gwyriad” (“the limits of deviation”) yw terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith rhestredig a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;

  • ystyr “y terfynau pellach” (“the further limits”)

  • yw'r terfynau a ddangosir gan y llinellau sydd ar blaniau'r gweithfeydd ac wedi'u marcio “terfynau'r tir sydd i'w ddefnyddio” (“limits of land to be used”);

  • ystyr “y trawsluniau” (“the sections”) yw'r trawsluniau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn drawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “trosglwyddiad electronig (“electronic transmission”) yw cyfathrebiad a drosglwyddir—

    (a)

    drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu

    (b)

    drwy ddull arall ond yn parhau ar ffurf electronig;

  • ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sef elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 3040336 (a ymgorfforwyd yn wreiddiol fel Cymdeithas Reilffordd Llangollen Cyfyngedig o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965(7)) a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN; ac

  • ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw'r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn unrhyw werthiant, prydles neu is-brydles o dan erthygl 17 (trosglwyddo rheilffyrdd gan yr ymgymerwr) bydd yr ymadrodd hwn yn golygu neu'n cynnwys y trosglwyddai o fewn ystyr yr erthygl honno.

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu oddi tano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwynebedd.

(3Brasgywir yn unig yw pob pellter, cyfeiriad a hyd a roddir mewn disgrifiad o'r gwaith rhestredig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu o diroedd a chymerir y bydd pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith rhestredig wedi'u mesur ar hyd y gwaith rhestredig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources