18.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys—
(a)i unrhyw gytundeb i brydlesu'r cyfan neu unrhyw ran o'r rheilffyrdd neu'r hawl i weithio'r cyfryw i unrhyw berson; a
(b)i unrhyw gytundeb a wneir gan yr ymgymerwr gydag unrhyw berson i adeiladu, i gynnal a chadw, i ddefnyddio neu i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt,
i'r graddau y mae unrhyw gytundeb o'r fath yn ymwneud â'r telerau y mae unrhyw dir sy'n ddarostyngedig i brydles a roddwyd gan y cytundeb hwnnw neu oddi tano i gael ei ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.
(2) Ni fydd unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy'n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn rhagfarnu gweithrediad unrhyw gytundeb y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.
(3) Yn unol â hynny, ni fydd deddfiad na rheol gyfreithiol o'r fath yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau partïon i unrhyw brydles a roddwyd drwy unrhyw gytundeb o'r fath neu oddi tano fel ei bod—
(a)yn cau allan neu mewn unrhyw fodd yn addasu unrhyw un neu ragor o hawliau a rhwymedigaethau'r partïon hynny o dan delerau'r brydles, boed hynny mewn perthynas â dirwyn y denantiaeth i ben neu unrhyw fater arall;
(b)yn rhoi neu'n gosod ar unrhyw barti o'r fath unrhyw hawl neu rwymedigaeth sy'n codi allan o unrhyw beth sy'n cael ei wneud neu sy'n ddiffygiol o gael ei wneud neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn perthynas â thir sy'n ddarostyngedig i'r brydles, yn ychwanegol at unrhyw hawl neu rwymedigaeth o'r fath y darperir ar ei gyfer yn nhelerau'r brydles; neu
(c)yn cyfyngu unrhyw barti i'r brydles rhag gorfodi (boed hynny drwy achos am iawndal neu mewn modd arall) unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw barti arall o dan y brydles.