Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1849 (Cy.180)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

19 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Gorffennaf 2010

Y n dod i rym

1 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau at yr Atodiad i'r offeryn UE a grybwyllwyd yn rheoliad 3 fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Hydref 2010.

Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

2.  Diwygir Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007(4) yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn ll lle'r diffiniad o “y Rheoliad” rhodder y diffiniad a ganlyn—

Gwerda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “y Rheoliad”, sef Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwydydd (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3), a geir yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611). Effaith y diwygiad yw bod cyfeiriad at y Rheoliad yn O.S. 2007/2611 bellach yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau a wneir yn y dyfodol i'w Atodiad, sy'n cynnwys y rhestr o honiadau a awdurdodir am faethiad ac amodau sy'n ymwneud â'u defnyddio (rheoliad 3).

(1)

1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

Gosodir testun cywir llawn y Rheoliad hwn mewn Corigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3). Cafodd y Rheoliad ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 116/2010 (OJ Rhif L37, 10.02.2010, t.16).