xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1704 (Cy.164)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010

Gwnaed

26 Mehefin 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mehefin 2010

Yn dod i rym

1 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2010/2011.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

Y cymhwyster ar gyfer dileu

4.  Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o'r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a geir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Yr Amgylchiadau

5.  Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw–

(1bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a

(2bod Gweinidogion Cymru o'r farn, o ran y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu—

(a)nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998; ac

(b)nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o'r fath o dan unrhyw gytundeb neu Reoliadau o'r fath.

Y Swm Penodedig

6.  Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw'r lleiaf o'r canlynol—

(1£1,500;

(2yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, neu gosbau, costau, treuliau neu ffioedd a dynnwyd mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, neu gosbau, costau, treuliau neu ffioedd a dynnwyd mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.

(3At ddibenion cyfrifo'r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â Rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(6).

Dileu

8.  Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith o'r Dyddiad Ad-dalu.

9.  Os oes unrhyw un neu ragor o'r Amgylchiadau yn rheoliad 5(2) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith yn cychwyn ar y dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

26 Mehefin 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyriwr sydd gan fyfyrwyr sy'n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd 2010/2011.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod eu had-daliad cyntaf ar eu benthyciad wedi ei dderbyn.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), ac adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac Atodlen 7 iddi a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)) yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru'n talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2010/2011 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2737 (Cy.235)).

(5)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470).

(6)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm y bernir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly'r swm y bernir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470). Gweler yn arbennig reoliadau 17, 29, 44 a 76.