Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 1704 (Cy.164)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010
Gwnaed
26 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mehefin 2010
Yn dod i rym
1 Awst 2010
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), ac adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac Atodlen 7 iddi a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud รข gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)) yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).