Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

Tramgwyddau eraill

7.—(1Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(2) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

(2Tramgwydd yn rhinwedd—

(a)adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu

(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(3).

(3Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr)(4).