ATODLEN 3TRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau eraill7

1

Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 197973 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 187674 (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

2

Tramgwydd yn rhinwedd—

a

adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu

b

adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)75.

3

Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr)76.