Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

18.  Gwaharddiad a osodwyd ar unrhyw adeg o dan—

(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(1) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(2);

(b)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat);

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(3); neu

(ch)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod cyfyngiadau ar faethu preifat).

(1)

1980 p.6. Diddymwyd Deddf Plant Maeth 1980 gan Ddeddf 1989.

(2)

1958 p.65. Diddymwyd adran 4 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.