Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r categorïau o bersonau a anghymhwysir rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (“y Ddeddf”). Ni chaiff personau a anghymhwysir o dan y Rheoliadau hyn ddarparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth o ofal dydd, na chael unrhyw fuddiant ariannol mewn darpariaeth o'r fath. Ni cheir ychwaith eu cyflogi mewn cysylltiad â darparu gofal dydd.

Mae rheoliad 3, ynghyd ag Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn, yn pennu'r gorchmynion a'r penderfyniadau ynglŷn â gofalu am blant a'u goruchwylio, yr anghymhwysir person rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy. Mae rheoliad 3 ynghyd ag Atodlenni 2 a 3 yn pennu hefyd y categorïau o dramgwyddau yn erbyn plant neu oedolion, neu sy'n ymwneud â phlant neu oedolion, yr anghymhwysir person rhag cofrestru mewn perthynas â hwy.

Mae anghymhwyso rhag cofrestru yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnir dramor, sy'n gymaradwy i'r tramgwyddau a bennir yn y Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 4).

O dan y Rheoliadau hyn, mae personau a gynhwysir ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), personau y gwnaed cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) (a adwaenir fel Rhestr 99) a phersonau a waherddir o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant, o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru (gweler rheoliadau 5, 6(1) a (2) a 7).

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer hepgor anghymhwyso mewn amgylchiadau penodol, ac felly, os yw Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi cydsynio, ni cheir ystyried bod y person wedi ei anghymhwyso. Nid oes pŵer gan Weinidogion Cymru i hepgor anghymhwyso pan fo'r anghymhwysiad yn tarddu o gynnwys y person ar Restr 99 neu'r rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, neu o'i wahardd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu pan fo llys wedi gorchymyn na chaiff y person weithio mewn cysylltiad â phlant yn dilyn ei gollfarnu am dramgwyddau penodol yn erbyn plant (gweler rheoliadau 9(1) a 9(2)).

Yn rhinwedd rheoliad 10, mae hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chydsynio i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod dyletswydd ar berson a gofrestrwyd o dan Ran 10A o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, collfarn neu sail arall ar gyfer anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r rhwymedigaeth honno'n gymwys i wybodaeth am y person cofrestredig ac am unrhyw berson sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person cofrestredig, neu a gyflogir ar yr aelwyd honno.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004, a fydd bellach yn gymwys yn unig o ran anghymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat.