Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 20079
1
Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r Rheoliadau Adolygu (Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso) mewnosoder y diffiniad a ganlyn —
ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
2
Yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau Adolygu (Amser pan fo'n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) dileer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—
a
swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu,
b
os yw'r plentyn wedi ei gynnwys mewn grŵp teulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac os yw'r teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm.
3
a
Ar ôl rheoliad 6 o'r Rheoliadau Adolygu mewnosoder y rheoliad a ganlyn—
Ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu
6A
Yr ystyriaethau a bennir yn Atodlen 4 yw'r ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn sy'n rhan o deulu a gefnogir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.
b
Bydd gan Atodlen 3 (sy'n mewnosod Atodlen 4 newydd yn y Rheoliadau Adolygu) yn effeithiol.
4
Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu (Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu), ym mharagraff (1), ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn—
chch
yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a
5
Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu, ym mharagraff (3), ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn–
chch
yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a