Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

Cymhwyso darpariaethau Deddf 1990

7.—(1Mae darpariaethau Deddf 1990 a nodwyd ym mharagraff (3) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf 1990 neu at Ran o Ddeddf 1990 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn.

(3Dyma'r darpariaethau—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)(1);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(2);

(d)is-adran (8) o adran 30 (dadansoddi etc. samplau);

(dd)adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);

(e)is-adrannau (1) i (3) o adran 35 (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'r is-adrannau'n ymwneud â thramgwyddau o dan is-adrannau (1) a (2) o adran 33(3);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(ff)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(1)

Mae adran 2 wedi ei diwygio gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi (p. 28).

(2)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(3)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.