xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1492 (Cy.135)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

Gwnaed

25 Mai 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mai 2010

Yn dod i rym

18 Mehefin 2010

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at ddarpariaethau Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac Atodiad XIII i'r Rheoliad hwnnw, sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl)(2) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y cyfnod yr oedd y Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(5) ac adrannau 6(4), 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(7).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010. Maent yn dod i rym ar 18 Mehefin 2010 ac yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae i ymadroddion eraill, sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau hyn ond sydd heb eu diffinio ynddynt, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor.

(3Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Erthygl 114(2) a'r Atodiad yn gyfeiriadau at Erthygl 114(2) a'r Atodiad fel y'u diwygir o dro i dro.

Gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu

3.  Ni chaiff neb—

(a)gwerthu neu ddanfon llaeth; na

(b)defnyddio neu esgeuluso defnyddio disgrifiad gwerthu ar gyfer unrhyw gynnyrch,

yn groes i Erthygl 114(2) neu bwynt II(1) a (2) o'r Atodiad fel y'u darllenir ynghyd â phwynt III o'r Atodiad.

Mewnforio cynhyrchion o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i'w gwerthu fel llaeth yfed

4.  Ni chaiff neb fewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd unrhyw gynnyrch i'w werthu fel llaeth yfed yn groes i bwynt IV o'r Atodiad.

Gorfodi

5.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd roi i unrhyw awdurdod bwyd arall ym Mhrydain Fawr unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod bwyd arall hwnnw er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaeth gyfatebol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw darpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed yn Lloegr neu'r Alban er mwyn gweithredu Erthygl 114(2) neu'r Atodiad.

Tramgwyddau a chosbau

6.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4—

(a)yn euog o dramgwydd; a

(b)yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cymhwyso darpariaethau Deddf 1990

7.—(1Mae darpariaethau Deddf 1990 a nodwyd ym mharagraff (3) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf 1990 neu at Ran o Ddeddf 1990 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn.

(3Dyma'r darpariaethau—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)(8);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(9);

(d)is-adran (8) o adran 30 (dadansoddi etc. samplau);

(dd)adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);

(e)is-adrannau (1) i (3) o adran 35 (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'r is-adrannau'n ymwneud â thramgwyddau o dan is-adrannau (1) a (2) o adran 33(10);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(ff)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Dirymu

8.  Mae Rheoliadau Llaeth Yfed 1998(11) wedi eu dirymu o ran Cymru.

Diwygiadau

9.—(1Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(12) wedi ei ddiwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Ar ôl y diffiniad o “confectionery product”, mewnosoder—

“Council Regulation 1234/2007” means Council Regulation (EC) No 1234/2007 establishing a common organisation of agricultural markets and on specific provisions for certain agricultural products (Single CMO Regulation);.

(3Yn y diffiniad o “raw milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97 laying down additional rules on the common organisation of the market in milk and milk products for drinking milk”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.

(4Yn y diffiniadau o “semi-skimmed milk”, “skimmed milk” a “whole milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 18 Mehefin 2010, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac Atodiad XIII (“yr Atodiad”) i'r Rheoliad hwnnw sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl) (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t 1). Mae Rheoliadau Llaeth Yfed 1998 (O.S. 1998/2424) wedi eu dirymu gan reoliad 8.

Mae gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio neu beidio â defnyddio disgrifiad gwerthu ar gyfer unrhyw gynnyrch yn groes i'r Atodiad wedi eu gwahardd. (Rheoliad 3)

Mae mewnforio unrhyw gynnyrch o'r tu allan i'r Gymuned yn groes i bwynt IV o'r Atodiad wedi ei wahardd. (Rheoliad 4)

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi ac mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth am dramgwyddau a chosbau.

Mae darpariaethau penodedig yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi eu hymgorffori yn y Rheoliadau. (Rheoliad 7)

Mae rheoliad 9 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499).

Nid oes asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(2)

OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 OJ Rhif L188, 18.7.2009 t.14.

(4)

1990 p.16. Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”), ac Atodlen 5, paragraff 21, iddi.

(5)

Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(6)

Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994, p. 40, ac Atodlen 9, paragraff 6 iddi ac adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraff 10(1) a (3) iddi; diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi; diwygiwyd adran 17(2) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7, 8 a 12 iddi; diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi.

(7)

O ran Cymru, cafodd y swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, p. 32.

(8)

Mae adran 2 wedi ei diwygio gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi (p. 28).

(9)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(10)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.