xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1410 (Cy.125)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010

Gwnaed

11 Mai 2010

Yn dod i rym

12 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 188(1) a (2)(d) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1).

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 316(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Mai 2010.

Diwygio Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29)

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pysgodfeydd 1981(2), ar ôl paragraff 17B mewnosoder—

17C.  Any offence under section 190 of the Marine and Coastal Access Act 2009 (contravention of an order made by the Welsh Ministers in relation to fisheries in Wales).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

11 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) (“Deddf 1981”) o ganlyniad i ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38) (“Deddf 1966”) gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) (“Deddf 2009”).

Mae'r Gorchymyn yn mewnosod paragraff newydd 17C i Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981. Effaith y ddarpariaeth hon yw na fydd person yn euog o dramgwydd o dan adran 190 o Ddeddf 2009 (mynd yn groes i orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o ran pysgodfeydd yng Nghymru) oherwydd unrhyw beth y mae'r person hwnnw yn ei wneud wrth ffermio pysgod os yw'r peth hwnnw yn cael ei wneud neu yn cael ei hepgor o dan awdurdod esemptiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn unol ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr esemptiad (gweler adran 33(1) o Ddeddf 1981).

Diddymwyd paragraff 10 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981 gan Ran 4 o Atodlen 22 i Ddeddf 2009. Effaith y ddarpariaeth hon oedd na fuasai person yn euog o dramgwydd, sef mynd yn groes i is-ddeddf a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (is-ddeddfau i reoleiddio pysgota yn y môr) oherwydd unrhyw beth a wnaed gan y person hwnnw wrth ffermio pysgod, yn ddarostyngedig i'r un amodau a ddisgrifir uchod o ran paragraff newydd 17C o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981.

Mae'r tramgwydd o dan adran 190 o Ddeddf 2009 yn disodli, o ran Cymru, y tramgwydd o dan Ddeddf 1966 o fynd yn groes i is-ddeddfau o dan adran 5 o'r Ddeddf honno. Mae'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cynnal effaith eang Atodlen 4 i Ddeddf 1981 o ganlyniad i ddiddymu Deddf 1966 gan Ddeddf 2009.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.