7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar ôl yr ail ddiwrnod penodedig ond cyn y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 6 yn gymwys iddynt.
(3) Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.
(4) Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.