Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1376 (Cy.121)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

28 Ebrill 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2010

Yn dod i rym

21 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd)(2).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 21 Mai 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009

2.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009(4) fel a ganlyn.

(2Yn yr enw ac yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) yn y testun Cymraeg yn lle “(Jeli Cwpan Fach)” rhodder “(Jeli Cwpanau Bach)”.

(3Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Saesneg–

(a)ar ddiwedd paragraff (3)(a) mewnosoder “or”;

(b)ym mharagraff (3)(b) dileer “; or” ac yn ei le rhodder “,”; ac

(c)ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).

(4Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Cymraeg—

(a)ar ddiwedd paragraff 3(a) mewnosoder “neu”;

(b)ym mharagraff (3)(b) dileer “; neu” ac yn ei le rhodder “,”; ac

(c)ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).

(5Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (gwaharddiadau) yn y testun Cymraeg ar ôl y gair “gyfnod” mewnosoder y gair “nad”.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002.