xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Gorfforaeth ddirprwyo pwerau—
(a)i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 5;
(b)i'r Cadeirydd neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, i'r Is-gadeirydd; neu
(c)i'r Pennaeth.
(2) Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â dirprwyo'r canlynol—
(a)penderfynu ar gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad;
(b)cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant;
(c)y cyfrifoldeb dros sicrhau solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;
(ch)penodi person i swydd uwch;
(d)penodi'r Clerc fel aelod o'r staff gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i gael ei benodi yn aelod o'r staff, benodiad y Clerc yn swyddogaeth aelod o'r staff; neu
(dd)gwneud erthyglau llywodraethu newydd yn lle'r Erthyglau hyn neu addasu'r Erthyglau hyn o dan adran 22(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).
(3) Caiff y Pennaeth, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw, ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Pennaeth i aelodau eraill o staff, ac eithrio rheoli'r gyllideb.
(4) Caiff y Bwrdd Academaidd ddirprwyo pwerau i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 4(8).