- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn—
ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r Gorfforaeth;
ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw Cadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc y Gorfforaeth;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall;
ystyr “y Gorfforaeth” (“the Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe;
ystyr “Is-gadeirydd” (“Vice-Chair”) yw Is-gadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr “materion staff” (“staff matters”) yw penodiad, tâl, amodau gwaith, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;
ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad ac mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio, teithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;
ystyr “Pennaeth” (“Principal”) yw prif weithredwr y sefydliad;
ystyr “y sefydliad” (“the institution”) yw Coleg Gŵyr Abertawe ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei bwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).
(2) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, o ran aelodau—
(a)mae cyfeiriadau at “categori amrywiol” yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y dichon eu niferoedd amrywio yn unol â pharagraffau 2 a 4; a
(b)mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2—
“Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru” (“Welsh Ministers Appointed Members”);
“aelodau awdurdod lleol” (“local authority members”);
“aelodau busnes” (“business members”);
“aelodau cyfetholedig” (“co-opted members”);
“aelodau cymunedol” (“community members”);
“aelodau myfyrwyr” (“student members”);
“aelodau rhieni” (“parent members”); ac
“aelodau staff” (“staff members”).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: