2010 Rhif 1317 (Cy.111)
BANCIAU A BANCIO
CYMDEITHASAU ADEILADU
Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 19(1) o Ddeddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 20081.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Gronfa Loteri Fawr a phersonau priodol eraill yn unol ag adran 19(2) o'r Ddeddf honno.
Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 19(3) o'r Ddeddf honno.