xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 3

ATODLEN 2Diwygio Is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes Addysg

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990

1.  Yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(1) yn lle'r geiriau “which is a local education authority as defined in section 114 of the Education Act 1944, any functions with respect to education” rhodder “any education functions (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000

2.—(1Diwygir rheoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(2) fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)y swyddogaethau o dan adrannau 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986;.

(3Ym mharagraff (ch) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.

Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001

3.—(1Diwygir Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001(3) fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(2)(ch)(i) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

4.—(1Diwygir Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(4) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(5)(ch) yn lle “awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ardal y mae'n byw ynddi” rhodder “awdurdod lleol (os yw'n wahanol) ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi os yw'r awdurdod hwnnw wedi arfer unrhyw swyddogaethau addysg mewn cysylltiad â'r plentyn”.

Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

5.—(1Diwygir Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(5) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “athro neu athrawes” yn lle “Awdurdod Addysg Lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

6.—(1Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(6) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 —

(a)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

(b)yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”;

(c)hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.

(3Yn rheoliadau 4 i 13 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

7.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(7), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “awdurdod lleoli” yn lle is-baragraff (ii) rhodder–

(ii)os yw'r plentyn yn cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod lleol (boed wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 ai peidio), yr awdurdod lleol hwnnw,.

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Geisiadau) 2002

8.—(1Diwygir Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Geisiadau) 2002(8) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(1)(a)(v) yn lle “local education authority” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authority”.

(3Yn rheoliad 27(2) yn lle “local education authority” rhodder “local authority”.

Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002

9.  Yn rheoliad 3(1)(a)(i) o Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(9) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002

10.  Yn erthygl 3(1)(a)(i) o Orchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002(10) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (Dyletswyddau Statudol) 2003

11.—(1Diwygir Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (Dyletswyddau Statudol) 2003(11) fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(2)(b) yn lle “Local Education Authorities” rhodder “local authorities”.

(3Ar ddiwedd erthygl 3(4) mewnosoder “and the reference to “local authorities” is a reference to local authorities within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996”.

Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004

12.  Yn Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004(12) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

13.—(1Diwygir rheoliad 36(4) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(13) fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd is-baragraff (b) ychwaneger “a chynnwys yn yr hysbysiad i'r awdurdod lleol wybodaeth am hanes addysg y plentyn ac os yw'r plentyn wedi cael ei asesu neu'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996”.

(3Hepgorer is-baragraff (c).

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

14.—(1Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(14) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.

(3Yn rheoliad 5(1) hepgorer is-baragraff (dd).

(4Yn lle rheoliad 8(4) rhodder—

(4) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol—

(a)y gall fod angen darparu gwasanaethau ar gyfer y person yr asesir ei anghenion gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu

(b)y gall fod angen darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer y person hwnnw sy'n dod o fewn swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall,

rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod lleol hwnnw..

(5Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (3) yn lle “swyddogaethau awdurdod addysg lleol” rhodder “swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall” ac yn lle “neu awdurdod addysg lleol” rhodder “neu awdurdod lleol”; a

(b)ym mharagraff (5)(c) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

(6Yn rheoliad 13(2) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall” ac yn lle “yr awdurdod addysg lleol” rhodder “yr awdurdod lleol arall”.

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005

15.—(1Diwygir Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(15) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.

(3Yn rheoliad 3(3) hepgorer is-baragraff (c).

(4Yn rheoliad 6(1)(c) yn lle'r geiriau “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall”.

(5Yn rheoliad 11(3), yn lle'r geiriau “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall”.

Rheoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006

16.  Yn rheoliad 2(2)(b) o Reoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006(16) yn lle “local education authorities” rhodder “local authorities”.

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

17.—(1Diwygir rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006(17) fel a ganlyn.

(2Yn lle'r diffiniad o “awdurdod” rhodder—

(3Yn lle'r diffiniad o “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” rhodder—

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)(Cymru) 2006

18.—(1Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(18) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(e) o Ran 1, ym mharagraff 3(dd) o Ran 2, ym mharagraff 3(ch) o Ran 3 ac ym mharagraff 3(dd) o Ran 4, yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006

19.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006(19) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliadau 4(1)(a) a 5 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006

20.—(1Diwygir Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006(20) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “Bwrdd” yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “awdurdodau gwasanaethau plant” rhodder “awdurdodau lleol”;

(b)hepgorer y diffiniad o “awdurdod gwasanaethau plant”;

(c)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

(3Yn rheoliadau 3(1)(e) a 5(1) a (2) yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”.

(4Yn y pennawd i reoliad 7 yn lle “Awdurdodau Gwasanaethau Plant” rhodder “Awdurdodau Lleol”.

(5Yn rheoliad 7(1) a (2) yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

21.—(1Diwygir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(21) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 31(2) o Atodlen 5 yn lle “local education authority” rhodder “local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.

(3Ym mharagraffau 1(1), 2(1) a 4 o Atodlen 8 yn lle “local education authority” rhodder “local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

22.—(1Diwygir Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(22) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 6(1)(c), rhodder —

(c)yr awdurdod lleol, os yw'n wahanol i'r awdurdod ardal,

(i)sy'n cynnal unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ddisgybl ynddi, neu y bwriedir iddo fod yn ddisgybl ynddi, neu

(ii)sy'n gwneud trefniadau i ddarparu addysg i'r plentyn nad yw mewn ysgol yn unol ag adran 19 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iii)os yw'r plentyn yn ddisgybl mewn ysgol nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol, sy'n awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;.

Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007

23.—(1Diwygir Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(23) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 —

(a)yn y diffiniad o “awdurdod” yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”; a

(b)yn lle'r diffiniad o “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” rhodder—

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

24.  Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008(24) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996)” .

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

25.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(25) yn y diffiniad o “ceisydd” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009

26.  Yn erthygl 2(2)(c) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009(26) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009

27.  Yn erthygl 3 o Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009(27) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

(3)

O.S. 2001/607 (Cy.30) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696.

(8)

O.S. 2002/1985 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/2683.

(11)

O.S. 2003/3006 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2471, 2008/526.

(14)

O.S. 2005/1512 (Cy.116), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879.

(15)

O.S. 2005/1513 (Cy.117) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879.

(20)

O.S. 2006/1705 (Cy.167) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/912.

(21)

O.S. 2007/236 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/1182, 2009/1357.