2.—(1) Diwygir rheoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(1) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)y swyddogaethau o dan adrannau 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986;”.
(3) Ym mharagraff (ch) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.
O.S. 2000/2993 (Cy.193) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy.140), 2005/761 (Cy.65), 2008/2828.