ATODLEN 1Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg
Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
12
1
Diwygir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 200315 fel a ganlyn.
2
Yn nheitl y Rheoliadau yn lle “Cyllidebau AALl” rhodder “Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion”.
3
Yn rheoliad 1(1) yn lle “Cyllidebau AALl” rhodder “Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion”.
4
Yn rheoliad 2 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
5
Yn rheoliad 4 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd heblaw yn yr ail is-baragraff (a) ym mharagraff (2) rhodder “awdurdod lleol”.
6
Yn rheoliad 4(2) yn yr ail is-baragraff (a) yn lle “ar gyllideb AALl yr awdurdod addysg lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.
7
Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 5 rhodder—
Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion
8
Yn rheoliad 5(1)—
a
yn lle “awdurdod addysg lleol” yn y lle cyntaf y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”; a
b
yn lle “ar gyllideb AALl awdurdod addysg lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.
9
Yn rheoliad 6 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
10
Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle “CYLLIDEB AALl AWDURDOD ADDYSG LLEOL” rhodder “CYLLIDEB ADDYSG AWDURDOD LLEOL NAD YW AR GYFER YSGOLION”.
11
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 18 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”;
b
ym mharagraff 19 yn lle “yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol” rhodder “mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.
12
Yn y pennawd i Atodlen 2 yn lle “AWDURDOD ADDYSG LLEOL” rhodder “AWDURDOD LLEOL”.
13
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9, 10, 18 a 21 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.