14.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliadau 2003” yn lle “Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Cyllidebau nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003”.
(3) Yn rheoliadau 2, 4 i 8, 10 i 14, 16 i 22 ac yn yr Atodlen, yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, rhodder “awdurdod lleol”.
O.S. 2004/2506 (Cy.224) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243), 2008/1866 (Cy. 178).