ATODLEN 1Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

14

1

Diwygir Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 200417 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliadau 2003” yn lle “Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Cyllidebau nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003”.

3

Yn rheoliadau 2, 4 i 8, 10 i 14, 16 i 22 ac yn yr Atodlen, yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, rhodder “awdurdod lleol”.