Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “is-ddeddfwriaeth ym maes addysg” yw is-ddeddfwriaeth a wnaed yn gyfan gwbl o dan y pwerau sydd yn unrhyw un o'r Deddfau Addysg (o fewn ystyr Deddf Addysg 1996) ac mae ystyr “is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes addysg” i'w ddehongli yn unol â hynny.