xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4Adfer

RHAN 1Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

Cymhwyso Rhan 1

1.  Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir.

Risg i iechyd dynol

2.  Rhaid i waith adfer ddileu unrhyw risg o bwys i iechyd dynol.

Yr amcan

3.  Amcan adfer yw sicrhau'r un lefel o adnoddyn neu wasanaethau naturiol â'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad sylfaenol ac adferiad cydategol

4.—(1Rhaid i'r adferiad gynnwys unrhyw adferiad sylfaenol neu adferiad cydategol a fydd yn sicrhau'r amcan neu'r ddau os bydd hynny'n ei sicrhau.

(2Mae adferiad sylfaenol yn unrhyw fesur adfer sy'n peri i'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig ddychwelyd i'r cyflwr, neu tua'r cyflwr, a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd (mae ymadferiad naturiol yn ffurf a ganiateir ar adferiad sylfaenol mewn achosion priodol).

(3Mae adferiad cydategol yn unrhyw fesur adfer a gymerir mewn perthynas ag adnoddau neu wasanaethau naturiol i wneud iawn am y ffaith nad yw adferiad sylfaenol yn arwain at edfryd yr adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig yn gyfan gwbl yn ôl i'r cyflwr a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad cydadferol

5.—(1Yn ychwanegol rhaid darparu adferiad cydadferol i wneud iawn am golledion interim o ran adnoddau neu wasanaethau naturiol sy'n digwydd o ddyddiad y difrod hyd nes y bydd yr adferiad wedi cyflawni ei amcan; ac yn y paragraff hwn ystyr “colledion interim” (“interim losses”) yw colledion sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd na'r gwasanaethau yn gallu cyflawni eu swyddogaethau ecolegol na darparu gwasanaethau i adnoddau naturiol eraill nac i'r cyhoedd hyd nes y bydd yr adferiad sylfaenol wedi'i gwblhau.

(2Nid yw adferiad cydadferol yn cynnwys iawndal.

Y dewis o ran adferiad

6.—(1Rhaid gwerthuso'r opsiynau adfer gan ddefnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael, ac ar sail—

(a)effaith pob opsiwn ar iechyd a diogelwch y cyhoedd;

(b)y gost o weithredu'r opsiwn;

(c)yn achos pob opsiwn, pa mor debyg yw hi y byddai'n llwyddo;

(ch)i ba raddau y bydd pob opsiwn yn atal difrod yn y dyfodol, ac yn osgoi difrod ystlysol o ganlyniad i weithredu'r opsiwn;

(d)i ba raddau y mae pob opsiwn o fudd i bob un o gydrannau'r adnoddyn naturiol neu'r gwasanaeth;

(dd)i ba raddau y mae pob opsiwn yn cymryd i ystyriaeth bryderon cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol a ffactorau perthnasol eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r lleoliad;

(e)faint o amser y bydd yn ei gymryd i'r gwaith edfryd a wneir i gywiro'r difrod amgylcheddol fod yn effeithiol;

(f)i ba raddau y mae pob opsiwn yn sicrhau bod safle'r difrod amgylcheddol yn cael ei edfryd; ac

(ff)y cysylltiad daearyddol â'r safle a ddifrodwyd.

Canfod adferiad cydategol ac adferiad cydadferol

7.—(1Os yw'n bosibl, rhaid i fesurau adfer cydategol a rhai cydadferol ddarparu adnoddau neu wasanaethau naturiol o'r un math, ansawdd a nifer â'r rhai a ddifrodwyd.

(2Pan na fo hynny'n bosibl, rhaid darparu adnoddau neu wasanaethau naturiol tebyg ond gwahanol (er enghraifft, drwy wrthbwyso lleihad yn ansawdd adnoddau neu wasanaethau naturiol drwy gynyddu'r nifer ohonynt).

(3Pan na fo hynny'n bosibl, caniateir i adnoddau neu wasanaethau naturiol gwahanol gael eu darparu, a rhaid i brisiad ariannol y mesurau adfer fod yr un fath â phrisiad ariannol yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(4Os yw'n ymarferol prisio'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd, ond nad oes modd prisio'r mesurau adfer o fewn cyfnod amser rhesymol neu am bris rhesymol, yna caniateir darparu mesurau adfer y mae eu cost (yn lle eu prisiad ariannol) yn gyfwerth â'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(5Yn achos adferiad cydategol ar safle newydd, pan fo'n bosibl ac yn briodol, dylai'r safle hwn fod yn ddaearyddol gysylltiedig â'r safle a ddifrodwyd.

Opsiynau

8.—(1Wrth werthuso'r gwahanol opsiynau adfer a ganfyddwyd, caniateir penderfynu ar fesurau adfer sylfaenol nad ydynt yn edfryd yn llawn y dŵr neu'r rhywogaethau a warchodir neu'r cynefin naturiol a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr neu i'w cyflwr adeg y digwyddiad neu benderfynu ar fesurau adfer sylfaenol sy'n ei edfryd neu'n eu hedfryd yn fwy araf (er enghraifft, pan ellid darparu'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol cyfwerth yn rhywle arall am gost is).

(2Dim ond os gwneir iawn am yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol sy'n cael eu hepgor o ganlyniad i'r penderfyniad drwy gynyddu'r camau cydategol neu'r rhai cydadferol i ddarparu lefel debyg o adnoddau neu wasanaethau naturiol y ceir gwneud y penderfyniad hwn.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi benderfynu ar unrhyw bryd nad oes angen cymryd unrhyw fesurau adfer pellach—

(a)os yw'r mesurau adfer sydd eisoes wedi'u cymryd wedi dileu unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol, dŵr neu rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol; a

(b)os byddai cost y mesurau adfer y mae eu hangen i edfryd yr hyn a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr cyn y digwyddiad yn anghymesur o'u cymharu â'r buddion amgylcheddol y gellid eu cael.