- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
31.—(1) Caiff awdurdodau gorfodi awdurdodi personau at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r pwerau yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) yn gymwys o ran y Rheoliadau hyn, ac mae pwerau personau a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr adran honno'n arferadwy gan bersonau a awdurdodwyd gan unrhyw awdurdod gorfodi.
(3) Mae'r pwerau hynny wedi'u hestyn i bob ardal y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddi.
(4) Yn ychwanegol, caiff person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r môr fynd ar fwrdd llong neu weithfa forol ar unrhyw bryd a'i harolygu.
(5) At ddibenion arfer y pwerau yn y rheoliad hwn, caiff y person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i long neu weithfa forol—
(a)stopio; neu
(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall.
(6) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar fwrdd llong neu weithfa forol, er mwyn glanio o'r llong neu'r weithfa, ei gwneud yn ofynnol i'r llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall—
(a)stopio; neu
(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi'r person awdurdodedig, ac unrhyw berson sydd gydag ef, i lanio.
(7) Caiff person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar fwrdd llestr neu weithfa forol roi unrhyw gyfleusterau a chymorth ynghylch materion sydd o dan reolaeth y person hwnnw y byddai'r person awdurdodedig yn barnu y byddent yn hwyluso'r broses o arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y rheoliad hwn.
(8) Mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn, neu ddarparu'n fwriadol wybodaeth anwir neu gamarweiniol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: