RHAN 3Adfer

Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer

19.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(3Y seiliau dros apelio yw—

(a)nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(b)bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(c)bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);

(ch)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;

(d)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;

(dd)bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.

(4Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.

(5Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(6Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.