RHAN 3Adfer
Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer19
1
Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
2
Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.
3
Y seiliau dros apelio yw—
a
nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;
b
bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;
c
bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);
ch
nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;
d
nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;
dd
bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.
4
Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.
5
Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.
6
Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.