- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol yn rheoliadau 4 i 8 nid yw person yn gymwys i wneud asesiad, ac eithrio asesiad oedran, ond pan fo'r corff goruchwylio wedi'i fodloni fod y person hwnnw—
(a)wedi'i yswirio mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd a ddichon godi mewn cysylltiad â gwneud yr asesiad; a
(b)yn meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol ar gyfer yr asesiad y mae i'w wneud, sy'n gorfod cynnwys y sgiliau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(i)y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda golwg ar ganfod nodweddion a phriodweddau person sy'n berthnasol i anghenion y person hwnnw, a
(ii)y gallu i weithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n ei benodi i wneud asesiad ac ar unrhyw berson sy'n darparu gofal neu driniaeth i'r person y mae i'w asesu.
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni bod yna mewn perthynas â'r person—
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1); neu
(b)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol amdano yn un a ragnodir o dan adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno(2).
4. Mae person yn gymwys i gynnal asesiad iechyd meddwl(3) os yw'r person hwnnw—
(a)wedi'i gymeradwyo o dan adran 12 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(4); neu
(b)yn ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r corff goruchwylio yn fodlon fod ganddo brofiad perthnasol mewn diagnosio neu drin anhwylder meddyliol.
5.—(1) Mae person yn gymwys i gynnal asesiad lles pennaf(5) os yw'r person hwnnw—
(a)yn weithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd;
(b)yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;
(c)yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 o Ran y Nyrsys yn y Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o'r Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;
(ch)yn therapydd galwedigaethol a gofrestrwyd yn Rhan 6 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu
(d)yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer a ddyroddwyd gan y Gymdeithas honno.
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni hefyd fod gan y person y gallu i gymryd i ystyriaeth sylwadau unrhyw berson sydd â buddiant yn lles y person sydd i'w asesu a'r gallu i asesu perthnasedd a phwysigrwydd y sylwadau hynny wrth wneud asesiad.
6. Mae person yn gymwys i wneud asesiad galluedd meddyliol(6) neu asesiad cymhwystra(7) os yw'n gymwys i gynnal—
(a)asesiad iechyd meddwl; neu
(b)asesiad lles pennaf.
1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15).
Mewnosodwyd adran 113A gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.
Mae asesiad iechyd meddwl yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 35 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
1983 p.20. Diwygiwyd adran 12 gan adran 16 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.
Mae asesiad lles pennaf yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Mae asesiad galluedd meddyliol yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 37 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Mae asesiad cymhwystra yn asesiad a gynhelir o dan Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: