- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol Cymru
BYWYD GWYLLT, CYMRU
Gwnaed
24 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mawrth 2009
Yn dod i rym
23 Ebrill 2009
At ddibenion adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad1981(1) mae Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r Gorchymyn hwn yn effeithio ar unrhyw awdurdod lleol.
Mae Gweinidogion Cymru —
(a)yn unol â'r ddarpariaeth honno, wedi rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn perthynas â phwnc y Gorchymyn hwn;
(b)yn unol ag adran 26(4)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, wedi ymgynghori â'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur(2), sef y corff cynghori y mae Gweinidogion Cymru o'r farn sy'n gallu cynghori orau a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 23 Ebrill 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 4(5) i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (adar y mae'n rhaid eu cofrestru a'u modrwyo os cedwir hwy yn gaeth) fel a ganlyn.
(2) Hepgorir yr adar canlynol—
| Common name | Scientific name |
|---|---|
| Bunting, Cirl | Emberiza cirlus |
| Bunting, Lapland | Calcarius lapponicus |
| Bunting, Snow | Plectrophenax nivalis |
| Eagle, Adalbert's | Aquila adalberti |
| Eagle, Great Philippine | Pithecophaga jefferyi |
| Eagle. Imperial | Aquila heliaca |
| Eagle, New Guinea | Harpyopsis novaeguineae |
| Chough | Pyrrhocorax pyrrhocorax |
| Crossbills (all species) | Loxia spp |
| Falcon, Barbary | Falco pelegrinoides |
| Falcon, Gyr | Falco rusticolus |
| Fieldfare | Turdus pilaris |
| Firecrest | Regulus ignicapillus |
| Fish-Eagle, Madagascar | Haliaeetus vociferoides |
| Forest-Falcon, Plumbeous | Micrastur plumbeus |
| Harrier, Hen | Circus cyaneus |
| Hawk, Galapagos | Buteo galapagoensis |
| Hawk, Grey-backed | Leucopternis occidentalis |
| Hawk, Hawaiian | Buteo solitarius |
| Hawk, Ridgway's | Buteo ridgwayi |
| Hawk, White-necked | Leucopternis lacernulata |
| Hawk-Eagle, Wallace's | Spizaetus nanus |
| Hobby | Falco subbuteo |
| Honey-Buzzard, Black | Henicopernis infuscatus |
| Kestrel, Lesser | Falco naumanni |
| Kestrel, Mauritius | Falco punctatus |
| Kite, Red | Milvus, milvus |
| Oriole, Golden | Oriolus, oriolus |
| Redstart, Black | Phoenicurus ochruros |
| Redwing | Turdus iliacus |
| Sea-Eagle, Pallas' | Haliaeetus leucoryphus |
| Sea-Eagle, Steller's | Haliaeetus pelagicus |
| Serin | Serinus serinus |
| Serpent-Eagle, Andaman | Spilornis elgini |
| Serpent-Eagle, Madagascar | Eutriorchis astur |
| Serpent-Eagle, Mountain | Spilornis kinabaluensis |
| Shorelark | Eremophila alpestris |
| Shrike, Red-backed | Lanius collurio |
| Sparrowhawk, Gundlach's | Accipiter gundlachi |
| Sparrowhawk, Imitator | Accipiter imitator |
| Sparrowhawk, New Britain | Accipiter brachyurus |
| Sparrowhawk, Small | Accipiter nanus |
| Tit, Bearded | Panurus biarmicus |
| Tit, Crested | Parus cristatus |
| Warbler, Cetti's | Cettia cetti |
| Warbler, Dartford | Sylvia undata |
| Warbler, Marsh | Acrocephalus palustris |
| Warbler, Savi's | Locustella luscinioides |
| Woodlark | Lullula arborea |
| Wryneck | Jynx torquilla |
(3) Hepgorir y geiriau “Any bird one of whose parents or other lineal ancestor was a bird of a kind specified in the foregoing provisions of this Schedule”.
3. Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(Amrywio Atodlen 4).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”), ynghyd â Rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn darparu at gyfer cofrestru a modrwyo neu farcio adar a gedwir mewn caethiwed ac a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r adar a restrir yn yr erthygl honno oddi ar Atodlen 4 i'r Ddeddf. Mae hefyd yn tynnu allan y cyfeiriad at gymysgrywiau fel nad yw Atodlen 4 bellach yn cynnwys cymysgrywiau o'r rhywogaethau o adar ar y rhestr.
O'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, dyma'r adar a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf —
| Enw cyffredin | Enw gwyddonol |
|---|---|
| Buzzard, Honey | Pernis apivorus |
| Eagle, Golden | Aquila chrysaetos |
| Eagle, White-tailed | Haliaeetus albicilla |
| Falcon, Peregrine | Falco peregrinus |
| Goshawk | Accipiter gentilis |
| Harrier, Marsh | Circus aeruginosus |
| Harrier, Montagu's | Circus pygargus |
| Merlin | Falco columbarius |
| Osprey | Pandion haliaetus |
Mae Erthygl 4 yn cynnwys dirymiad canlyniadol o Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector wirfoddol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Mae copi o'r Asesiad Effaith ar gael gan Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Yr Uned Natur, Mynediad a'r Môr, Adeiladau'r Goron, Stryd y Dollborth, Aberystwyth, neu gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar www.cynulliadcymru.org .
Gweler y diffiniad o “advisory body” yn adrannau 23(3) a 27(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur o dan adran 128(4) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac mae'n parhau mewn bodolaeth (er ei fod wedi'i ail gyfansoddi) o dan adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).
Diwygiwyd adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan adrannau 47(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).
Diwygiwyd Atodlen 4 gan Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: