Dehongli
2. Mae i'r geiriau a'r ymadroddion a ganlyn yr ystyron canlynol—
Ystyr “aelod” (“member”) yw cadeirydd, is-gadeirydd neu swyddog-aelod Bwrdd, neu aelod nad yw'n swyddog i Fwrdd;
ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person a benodwyd yn unol â rheoliad 4(3) neu 4(4);
ystyr “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod Bwrdd sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(4);
ystyr “ardal y Bwrdd” (“Board’s area”) yw'r ardal y mae Bwrdd wedi'i sefydlu ar ei chyfer fel a nodir—
oherwydd caniateir i ardal o'r fath gael ei hamrywio o bryd i'w gilydd;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr “cyfnod cysgodol” (“shadow period”) yw'r cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac 1 Hydref 2009;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
mae i “sefydliadau gwirfoddol” yr ystyr a briodolir i “voluntary organisations” yn adran 206(1) o'r Ddeddf;
ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod Bwrdd sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2);
mae i'r term “undeb llafur” yr ystyr a bennir i “trade union” yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth (Cydgrynhoi) 1992(3) ac hwnnw'n undeb llafur sydd wedi'i gofrestru ar y rhestr o undebau llafur a ddelir gan y Swyddog Ardystio yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf honno.
O.S. 2003 Rhif 148 (Cy.18), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/778 (Cy.66).