xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 779 (Cy.67)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Mawrth 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(3), a 13(2) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 4(1), 2 a 7(3) o Atodlen 2 iddi(1) ac ar ôl ymgynghori'n unol â pharagraff 7(4) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Mae i'r geiriau a'r ymadroddion a ganlyn yr ystyron canlynol—

RHAN 2Aelodaeth

Aelodaeth o Fyrddau Iechyd Lleol

3.—(1Mae aelodau o'r Bwrdd yn cynnwys—

(a)cadeirydd;

(b)is-gadeirydd;

(c)swyddog-aelodau; ac

(ch)aelodau nad ydynt yn swyddogion.

(2Mae'r swyddog-aelodau yn cynnwys y—

(a)prif swyddog;

(b)swyddog meddygol;

(c)swyddog cyllid;

(ch)swyddog nyrsio;

(d)swyddog sy'n gyfrifol am ddarparu'r canlynol—

(i)gwasanaethau gofal sylfaenol;

(ii)gwasanaethau gofal cymunedol; a

(iii)gwasanaethau iechyd meddwl.

(dd)swyddog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r gweithlu a datblygu sefydliadol;

(e)swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd;

(f)swyddog sy'n gyfrifol am y cynllunio strategol a gweithredol i ddarparu gwasanaethau iechyd;

(g)Swyddog sy'n gyfrifol am therapïau a gwyddor iechyd.

(3Bydd gan y swyddog-aelodau ym mharagraff 2 unrhyw gyfrifoldebau eraill a ragnodir gan y Bwrdd.

(4Mae naw o aelodau nad ydynt yn swyddogion a rhaid iddynt gynnwys—

(a)aelod awdurdod lleol;

(b)aelod sefydliad gwirfoddol;

(c)aelod undeb llafur;

(ch)person sy'n dal swydd mewn prifysgol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

(5Yn ychwanegol, caniateir i aelodau cyswllt gael eu penodi'n unol â rheoliad 4(3) a (4).

Penodi aelodau Bwrdd Iechyd Lleol

4.—(1Mae'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru.

(2Mae'r swyddog-aelodau yn cael eu penodi gan y Bwrdd.

(3Caiff Gweinidogion Cymru benodi dim mwy na thri aelod cyswllt.

(4Os yw'r Bwrdd yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau, caiff benodi un aelod cyswllt.

(5Cyn gwneud penodiad yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r Bwrdd fod wedi cael cydsyniad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(6Pan fo'r Bwrdd yn gwneud penodiad yn unol â pharagraffau (2) neu (4), rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ynghylch penodiadau.

(7Bydd penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn unol â darpariaethau yn Atodlen (1) (pan fônt yn gymwys).

(8Pan fo person yn cael ei benodi'n unol â pharagraffau (1), (3) a (4), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi ac i sicrhau eu bod yn cynrychioli buddiannau'r gymuned yn ardal y Bwrdd.

(9Caiff pob awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau a enwebir i fod yn aelod awdurdod lleol o dan reoliad 3(4)(a).

(10Caiff y brifysgol yn ngholofn 1 o Atodlen 4 enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau hynny a enwebir i fod yn aelod prifysgol o dan reoliad 3(4)(ch) ar gyfer y Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi'i neilltuo iddi yng ngholofn 2 o Atodlen 4.

Y gofynion o ran cymhwystra i fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol

5.  Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt, rhaid iddo fodloni'r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 a pharhau i gyflawni'r gofynion perthnasol tra bo'n dal y swydd honno.

Deiliadaeth swydd cadeirydd, is-gadeirydd, aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog; neu

(b)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).

(2Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd aelod neu aelod cyswllt yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3Caniateir i aelod neu aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod neu aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliadau 4(1) neu 4(3).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nac fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd aelodau cyswllt a benodir gan y Bwrdd

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod cyswllt gan y Bwrdd yn unol â rheoliad 4(4).

(2Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae aelod cyswllt yn dal a gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3Caniateir i aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na blwyddyn.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(4).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

Terfynu penodiad swyddog-aelodau a'u hatal dros dro

8.—(1Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—

(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod; neu

(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau ei ddal swydd fel aelod.

(2Os bydd yr holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad i'r cadeirydd o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r Bwrdd.

(3Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu y dylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.

(4Pan fo person wedi'i benodi i fod yn swyddog-aelod, a'i bod yn dod i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd neu unrhyw aelod nad yw'n swyddog fod y person —

(a)wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2; neu

(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2.

rhaid iddynt hysbysu'r Bwrdd ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.

(5Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(6Pan fo hysbysiad wedi'i roi'n unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(7Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caniateir iddynt symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(8Pan fo swyddog-aelod wedi'i symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.

(9Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd oni chânt eu bodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn cyfryw gyfarfodydd ac o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn credu sy'n rhesymol.

Atal swyddog-aelodau dros dro

9.—(1Cyn penderfynu a ddylid symud person o swydd yn unol â rheoliad 8, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo swyddog-aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion hysbysu'r aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi'i hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Bwrdd.

Terfynu penodiad aelodau ac aelodau cyswllt a benodwyd gan Weinidogion Cymru

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn gadeirydd;

(b)yn is-gadeirydd;

(c)yn aelod nad yw'n swyddog;

(ch)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).

(2Caiff Gweinidogion Cymru symud person o swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu —

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu

(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,

i'r person hwnnw barhau i ddal swydd.

(3Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno.

(4Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(5Os yw person a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno oni chânt eu bodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.

(6Caiff person ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod neu aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

Atal dros dro aelodau ac aelodau cyswllt a benodwyd gan Weinidogion Cymru

11.—(1Cyn gwneud penderfyniad i symud person o swydd o dan reoliad 10, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ei ddeiliadaeth swydd am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Weinidogion Cymru'n hysbysu'r aelod hwnnw ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi'i atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod.

Terfynu penodiad aelodau cyswllt a benodwyd gan y Bwrdd

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i aelodau cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 4(4).

(2Caiff y Bwrdd symud person o swydd ar unwaith os yw'n penderfynu —

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu

(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,

i berson barhau i ddal swydd.

(3Os daw i sylw'r Bwrdd fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff y Bwrdd ei symud o'r swydd honno.

(4Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(5Os yw'n ofynnol i berson a benodwyd yn aelod cyswllt fod yn bresennol mewn un o gyfarfodydd y Bwrdd ond ei fod wedi methu â gwneud hynny am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y Bwrdd symud y person hwnnw o'r swydd honno oni chaiff ei fodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd yn credu sy'n rhesymol.

(6Caiff unrhyw aelod ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

RHAN 3Trafodion a threfniadau gweinyddol y Byrddau

Pwerau'r is-gadeirydd

13.  Pan fo cadeirydd y Bwrdd —

(a)wedi marw;

(b)wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c)yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd; a chymerir bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 3, cyhyd ag nad oes unrhyw gadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

14.  Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, caniateir i'r Bwrdd, ac os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid iddo —

(a)penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau'r Bwrdd, neu

(b)penodi, ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau neu Ymddiriedolaethau GIG neu awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd, gydbwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau,

a fydd wedi'u ffurfio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o aelodau'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill neu bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd nac o gyrff gwasanaeth iechyd eraill.

Cyfarfodydd a thrafodion

15.—(1Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y Bwrdd gael eu cynnal yn unol ag Atodlen 3 ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog a wneir o dan baragraff (2).

(2Rhaid i'r Bwrdd wneud Rheolau Sefydlog, i reoleiddio ei drafodion a'i fusnes, gan gynnwys darpariaethau i atal ei hun dros dro.

(3Caiff y Bwrdd —

(a)amrywio; neu

(b)dirymu ac ail-wneud

ei Reolau Sefydlog.

(4Caiff y Bwrdd, yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 14(a), wneud, amrywio a dirymu Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

(5Pan fo cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor wedi'i sefydlu'n unol â rheoliad 14(b), rhaid i'r Bwrdd gymeradwyo unrhyw Reolau Sefydlog y caniateir eu gwneud gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

(6Bydd Rheolau Sefydlog a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caniateir eu dyroddi gan Weinidogion Cymru a rhaid iddynt gael eu gwneud yn unol â'r cyfarwyddiadau hynny.

Aelodau cyswllt

16.  Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion Bwrdd.

Anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol

17.—(1Yn ddarostyngedig i'r rheoliad hwn —

(a)os oes gan aelod neu aelod cyswllt unrhyw fuddiant ariannol, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall; a

(b)os yw aelod neu aelod cyswllt yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd lle mae'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall yn bwnc sy'n cael ei ystyried,

rhaid i'r aelod hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod a chyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddechrau a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall neu, os oes gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwelant yn dda, osod neu ddileu unrhyw anabledd a osodir gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i wneud hynny.

(3Caiff Bwrdd, drwy Reoliadau Sefydlog a wneir o dan reoliad 15, ddarparu ar gyfer gwahardd unrhyw aelod neu aelod cyswllt o unrhyw un o gyfarfodydd y Bwrdd tra bo unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant ariannol ynddo, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.

(4Nid yw unrhyw dâl, iawndal neu lwfansau sy'n daladwy i aelod neu aelod cyswllt yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf i gael ei drin neu eu trin fel buddiant ariannol at ddibenion y rheoliad hwn.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), mae aelod neu aelod cyswllt i'w drin at ddibenion y rheoliad hwn fel un y mae ganddo fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw'r aelod hwnnw, neu unrhyw un y mae wedi'i enwebu —

(a)yn gyfarwyddwr neu'n swyddog arall cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater yn cael ei ystyried; neu

(b)yn berson y gwnaed y contract gydag ef neu y bwriedir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater sy'n cael ei ystyried, neu y mae'n bartner i'r person hwnnw, neu'n cael ei gyflogi ganddo;

ac yn achos personau sy'n briod â'i gilydd neu sydd mewn partneriaeth sifil â'i gilydd neu sy'n byw gyda'i gilydd fel rhai sy'n briod neu fel partneriaid sifil, bernir at ddibenion y rheoliad hwn fod buddiant un person o'r fath, os yw'n hysbys i'r llall, yn fuddiant y llall hefyd.

(6Nid yw aelod neu aelod cyswllt i'w drin fel un y mae ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd —

(a)aelodaeth yr aelod hwnnw mewn cwmni neu gorff arall os nad oes gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol yn unrhyw rai o warannau'r cwmni neu'r corff hwnnw; neu

(b)buddiant yn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'r aelod hwnnw'n gysylltiedig ag ef, fel y crybwyllir ym mharagraff (5), a hwnnw'n fuddiant sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol farnu y byddai'n debygol o ddylanwadu ar aelod wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater hwnnw na phleidleisio arno.

(7Pan fo gan aelod neu aelod cyswllt fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd buddiant llesiannol mewn gwarannau cwmni neu gorff arall, ac —

(a)nid yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm enwol cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf, a

(b)os yw'r cyfalaf cyfrandaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, cyfanswm enwol cyfrandaliadau unrhyw ddosbarth unigol y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol ynddo nad yw'n fwy na chanfed ran o gyfanswm y cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

nid yw'r rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod hwnnw rhag cymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu fater arall neu, pan fo gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ei gylch.

(8Nid yw paragraff (7) yn effeithio ar ddyletswydd aelod neu aelod cyswllt i ddatgelu buddiant o dan baragraff (1).

(9Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pwyllgor neu is-bwyllgor ac o ran cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor fel y mae'n gymwys o ran Bwrdd, ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu gyd-bwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn aelod o Fwrdd, neu'n aelod cyswllt ohono, ai peidio) fel y mae'n gymwys i aelod o Fwrdd neu aelod cyswllt ohono.

(10Yn y rheoliad hwn —

RHAN 4Trefniadau Trosiannol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

18.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.

Trefniadau ar gyfer aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

19.  Bydd unrhyw berson sy'n cael, neu sydd wedi cael, ei benodi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig yn unol â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(6) yn peidio â bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

Trefniadau ar gyfer y bwrdd cysgodol

20.—(1Y personau a benodir yn unol â pharagraffau (2) a (3) a fydd yn ffurfio'r Bwrdd cysgodol tan ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(2Bydd Gweinidogion Cymru yn penodi personau a ddaw'n gadeirydd, yn is-gadeirydd ac yn aelodau nad ydynt yn swyddogion ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(3Bydd y Bwrdd cysgodol yn penodi personau a ddaw'n swyddog-aelodau ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(4Bydd y Bwrdd yn cydweithredu â'r Bwrdd cysgodol i alluogi'r Bwrdd cysgodol i weithredu fel y Bwrdd o ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(5Rhaid i bersonau a benodir yn unol â pharagraffau (2) a (3) gydymffurfio â'r gofynion o ran cymhwystra yn Atodlen 2 ac fe'u trinnir fel petaent yn aelodau a benodwyd yn unol â rheoliad 4.

RHAN 5Amrywiol

Trefniadau trosiannol yn ystod y cyfnod cysgodol

21.  Yn ystod y cyfnod cysgodol bydd paragraff 6 o Atodlen 3 yn gymwys fel petai'n darllen —

Dirymu

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(7);

(b)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007(8).

(2O ran y Byrddau a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(9)

(a)mae'r Rheoliadau ym mharagraff (1) wedi'u dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)ac eithrio'r rheoliad hwn, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3O ran Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), caiff y Rheoliadau ym mharagraff (1) eu dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod cysgodol ac eithrio'r ffaith y byddant yn gymwys at ddibenion penodiadau o dan reoliad 20 ac ar gyfer y rheoliad hwn o ddechrau'r cyfnod cysgodol.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDDION, IS-GADEIRYDDION AC AELODAU NAD YDYNT SWYDDOGION

1.  Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ddethol a phenodi cadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau nad ydynt swyddogion..

2.  Bydd Gweinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer dethol a phenodi personau'n aelodau a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —

(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ac yng Nghod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;

(b)ei bod yn ofynnol bod dethol a phenodi'n brosesau agored a thryloyw;

(c)ei bod yn ofynnol bod detholi a phenodi yn cael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored; a

(ch)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion perthnasol ynghylch cymhwystra a nodir yn Atodlen 2 a'u bod yn bodloni'r meini prawf dethol a'r safonau cymhwysedd a ddefnyddir gan y Bwrdd.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Y MEINI PRAWF CYMHWYSTRA AR GYFER AELODAU AC AELODAU CYSWLLT

RHAN 1Gofynion cyffredinol

1.—(1Mae Rhan 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra aelodau ac aelodau cyswllt i gael eu penodi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt os yw —

(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi'i gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi'i hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c)wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;

(ch)os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi'i therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben;

(3At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall ohonynt, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod yn aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

(5Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b) —

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y diddymiad;

(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion y person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac

(ch)os bydd y person, ar ôl iddo wneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r drefniant.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oblegid paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(ch), bydd yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan yr awdurdod ac a barodd i'r aelodaeth gael ei therfynu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi'i wneud iddynt gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.

RHAN 2Y Gofynion o ran Cymhwystra ar gyfer Cadeiryddion, Is-gadeiryddion ac Aelodau nad ydynt yn Swyddogion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person yn anghymwys i fod yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog os yw'r person hwnnw yn cael, neu wedi cael yn y flwyddyn flaenorol, ei gyflogi am dâl gan unrhyw un o'r Byrddau Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn.

(a)Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20009 os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;

(b)Ymddiriedolaeth GIG a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009(10) os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;

(c)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre(11); neu

(ch)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(12).

(2Nid yw person yn anghymwys o dan baragraff (1) os penodir y person hwnnw yn —

(a)aelod undeb llafur yn unol â rheoliad 3(4)(c); neu

(b)aelod prifysgol yn unol â rheoliad 3(4)(ch).

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi'i gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG.

RHAN 3Y Meini Prawf ynghylch Cymhwystra ar gyfer Categorïau Penodol o Aelod

Swyddog meddygol

3.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi'i restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol y Cyngor Meddygol Cyffredinol(13) neu'r Gofrestr Arbenigwyr(14).

Swyddog nyrsio

4.  I fod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrsio yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(15).

Swyddog iechyd y cyhoedd

5.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd o dan reoliad 3(2)(e) rhaid i'r person fod wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol uwch mewn iechyd y cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig a bod wedi'i restru yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rhestr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol(16) neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU(17).

Swyddog Therapïau a Gwyddor Iechyd

6.  I fod yn gymwys i gael ei benodi yn aelod a benodir o dan reoliad 3(2)(ff), rhaid i berson gael ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd(18).

Aelod Awdurdod Lleol

7.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(a), rhaid i'r person fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol y mae ei ardal o fewn ardal y Bwrdd.

Aelod Sefydliad Gwirfoddol

8.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(b), rhaid i'r person fod yn gyflogai sefydliad gwirfoddol sy'n weithredu o fewn ardal y Bwrdd neu'n aelod ohono.

Aelod Undeb Llafur

9.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(c), rhaid i'r person fod—

(a)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan y Bwrdd; a

(b)yn aelod o undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi.

Rheoliad 15

ATODLEN 3RHEOLAU YNGHYLCH CYFARFODYDD A THRAFODION BYRDDAU

1.  Rhaid i gyfarfodydd Bwrdd gael eu cynnal ar y diwrnod ac yn y man a bennir gan y cadeirydd a'r cadeirydd sy'n gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2.—(1Caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Bwrdd ar unrhyw bryd.

(2Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod ar ôl i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n galw cyfarfod, ac yntau heb wrthod ei alw, o fewn saith niwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, caiff y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw am gynnal cyfarfod ar unwaith.

(3Cyn pob cyfarfod Bwrdd, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, sy'n nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac sydd wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan un o swyddogion a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran, gael ei draddodi i bob aelod ac aelod cyswllt, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol yr aelod, er mwyn iddo fod ar gael i'r aelod hwnnw o leiaf deg diwrnod clir cyn y cyfarfod.

(4Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

(5Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau oherwydd diffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drin yn y cyfarfod ac eithrio'r hyn a bennir yn yr hysbysiad.

3.—(1Mewn unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(2Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is-gadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(3Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, yr aelod nad yw'n swyddog, ac a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol, a fydd yn llywyddu.

4.—(1Penderfynir pob cwestiwn mewn cyfarfod drwy fwyafrif o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'n bleidlais fwrw.

(2Wrth benderfynu pob cwestiwn mewn cyfarfod rhaid i'r aelodau gymryd i ystyriaeth, pan fo'n berthnasol, sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau sy'n cynrychioli buddiannau'r gymuned sydd o fewn ardal y Bwrdd a buddiannau proffesiynolion iechyd.

(3Yn y paragraff hwn mae i'r term “proffesiynolion iechyd” yr ystyr a briodolir i “health professionals” yn adran 69 o Ddeddf Diogelu Data 1998(19).

5.  Rhaid cofnodi enwau'r cadeirydd, yr aelodau a'r aelodau cyswllt sy'n bresennol yn y cyfarfod.

6.  Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drin mewn cyfarfod —

(a)onid oes o leiaf chwe aelod yn bresennol; a

(b)onid yw'r rhai sy'n bresennol yn cynnwys o leiaf dri swyddog-aelod a thri o aelodau nad ydynt yn swyddogion.

7.  Rhaid i gofnodion trafodion cyfarfod gael eu llunio a'u cyflwyno i gael cytundeb arnynt yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, lle bydd rhaid iddynt gael eu llofnodi, os cytunir arnynt, gan y person sy'n llywyddu.

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw gyfarfod Bwrdd fod yn agored i'r cyhoedd.

(2Caiff Bwrdd benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod yn unol â darpariaethau adran 1(2) a (3) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960(20).

Rheoliad 4(10)

ATODLEN 4Y PRIFYSGOLION A GAIFF ENWEBU AELOD I FWRDD IECHYD LLEOL

Colofn 1Colofn 2
Y brifysgol
1Prifysgol CaerdyddBwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
2Prifysgol CaerdyddBwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
3Prifysgol CaerdyddBwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro
4Prifysgol AbertaweBwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
5Prifysgol AbertaweBwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
6Prifysgol BangorBwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
7Prifysgol CaerdyddBwrdd Iechyd Lleol Addysgol Powys

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)) (“Rheoliadau 2003”) a Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/953 (Cy.84)) (“Rheoliadau 2007”). Maent yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol.

2.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau—

(a)ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth y Byrddau (rheoliad 3);

(b)ar gyfer penodi eu haelodau (rheoliad 4);

(c)o ran gofynion cymhwystra eu haelodau (rheoliad 5 ac Atodlen 2);

(ch)mewn perthynas â deiliadaeth swydd eu haelodau, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 12).

3.  Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau amrywiol mewn perthynas â thrafodion y Bwrdd gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd, gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd a darpariaethau ynghylch pryd y gwaherddir aelod rhag pleidleisio.

4.  Mae Rhan 4 yn nodi trefniadau trosiannol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ac yn darparu i aelodau newydd gael eu penodi ac i aelodau presennol beidio â bod yn aelodau.

5.  Mae Rhan 5 yn cynnwys trefniadau trosiannol i Fyrddau Iechyd Lleol newydd gymryd lle'r Byrddau Iechyd Lleol presennol a darpariaethau i ddirymu Rheoliadau 2003 a Rheoliadau 2007.

6.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(11)

A sefydlwyd gan O.S. 1993/2838.

(12)

A sefydlwyd gan O.S. 1998/678.

(13)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(14)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(15)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).

(16)

Mae'r Rhestr o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol wedi'i rhagnodi gan Reoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Rhestr Arbenigwyr) 2008 a wneud gan y Cyngor o dan adrannau 26 a 52 o Ddeddf Deintyddol 1984 (p.24).

(17)

Cedwir Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU gan y Public Health Register, cwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif gofrestru 4776439.

(18)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002/254).

(19)

1998 p.29.

(20)

1960 p.67.