2. 6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 —
(a)adran 147 (diddymu atebolrwydd perthnasau am dâl cynnal);
(b)Atodlen 13 (darpariaethau trosiannol yn ymwneud ag adran 147); ac
(c)Rhan 5 o Atodlen 15 (diddymiadau a dirymiadau) ac adran 166 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honno.