- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gwnaed
9 Mawrth 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 1985;(2); ac
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000 (3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008;
2. 1 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn—
(a)Adran 7, ac yn unol â hynny Atodlen 1.
(b)Adran 8 i adran 12 yn gynhwysol.
(c)Adran 13(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 13(2)) ac adran 13(2).
(ch)Adran 46, ac yn unol â hynny, Atodlen 2.
(d)Adran 64.
(dd)Adran 65(1).
(e)Adran 68(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 68(3)) ac adran 68(3).
(f)Adran 69 i adran 71 yn gynhwysol.
(ff)Adran 75.
(g)Adran 103 i adran 108 yn gynhwysol.
(ng)Adran 109, ac, yn unol â hynny, Atodlen 5.
(h)Adran 110 i adran 111 yn gynhwysol.
(i)Adran 112(1).
(j)Adran 113(1) i (4) yn gynhwysol.
(l)Adran 114.
(ll)Adran 115(1) i (2) yn gynhwysol.
(m)Adran 116(1) i (3) yn gynhwysol.
(n)Adran 117(1).
(o)Adran 118(1) i (5) yn gynhwysol.
(p)Adran 121 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 6) a Rhan 1o Atodlen 6.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2009
1. Er gwaethaf dyfod i rym adran 10 o'r Ddeddf, bydd strategaeth fysiau a baratowyd gan awdurdod trafnidiaeth lleol yn unol ag adran 110 o Ddeddf 2000 (strategaethau bysiau) yn parhau i gael effaith o ran adran 124(1)(a) o'r Ddeddf honno (cynlluniau contractau o ansawdd).
2. Er gwaethaf dyfod i rym adran 64 o'r Ddeddf, bydd adran 155 o Ddeddf 2000 (cosbau) yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru heb y diwygiadau a wnaed gan adran 64 o'r Ddeddf o ran cosbau a osodir gan gomisiynydd traffig yn erbyn gweithredydd gwasanaeth lleol os yw'r comisiynydd traffig hwnnw wedi'i fodloni fod y gweithredydd, cyn 1 Ebrill 2009—
(a)wedi methu â gweithredu gwasanaeth lleol a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 1985,
(b)wedi gweithredu gwasanaeth lleol yn groes i'r adran honno neu i adran 118(4) neu 129(1)(b) o Ddeddf 2000, neu
(c)wedi methu â chydymffurfio ag adran 138 neu 140(3) o Ddeddf 2000.
3.—(1) Er gwaethaf dyfod i rym adran 71 o'r Ddeddf, rhaid ymdrin ag unrhyw gais a wneir cyn 1 Ebrill 2009 ac sy'n ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1985 a restrir yn is-baragraff (2), ond na chafwyd penderfyniad arno erbyn y dyddiad hwnnw, megis petai'r cais hwnnw wedi cael ei wneud ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a)adran 75(3) (tanysgrifio am gyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol, neu eu caffael, eu gwaredu etc);
(b)adran 79(3) (gwneud neu warantu benthyciadau penodol);
(c)adran 79(7) (gwarannau etc mewn cysylltiad â gwaredu cyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol etc); ac
(ch)adran 79(8) (darparu cymorth ariannol ar ffurf grantiau, benthyciadau, etc).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Ebrill 2009.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 mewn perthynas â chynlluniau trafnidiaeth lleol. Tra bod y Ddeddf yn gwneud newidiadau i'r trefniadau yn Lloegr, cedwir y trefniadau presennol yng Nghymru.
Mae adrannau 7 ac 8 o'r Ddeddf, ynghyd ag Atodlen 1, yn mewnosod y term newydd “local transport policies” yn Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Caiff y term ei ddiffinio fel y polisïau a ddatblygir o dan adran 108(1)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
Mae adran 9 yn cadw, o ran Cymru, y ddyletswydd yn adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ar awdurdodau trafnidiaeth lleol i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth lleol. Mae adran 9(1) yn darparu fod yn rhaid i Gynllun Trafnidiaeth Lleol, yng Nghymru, fod yn ddogfen sy'n cynnwys polisiau trafnidiaeth lleol sy'n cyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae adran 10 yn diddymu'r gofyn sydd o dan Ddeddf Drafnidiaeth 2000 i awdurdodau trafnidiaeth lleol baratoi strategaeth i fysiau. Yn canlyn o hyn, mae is-adrannau (8) i (11) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Trafnidiaeth 1968 ac i Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
Mae adran 11 yn diwygio'r ddyletswydd a roddir ar awdurdodau trafnidiaeth lleol yn adran 112(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i roi sylw i anghenion pobl oedrannus neu'r rheini sydd ag anableddau wrth ddatblygu'u polisïau.
Mae adran 12 yn symud ymaith y ddyletswydd ar y cyd a fodolai gynt ar Awdurdodau Trafnidiaeth i Deithwyr a chynghorau dosbarth metropolitan mewn ardal trafnidiaeth i deithwyr yn Lloegr i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth lleol o dan adran 108(1)(a), ac yn gosod y ddyletswydd yn y dyfodol yn gyfan-gwbl gyda'r Awdurdod Trafnidiaeth Integredig.
Mae adran 13 yn diwygio adran 114 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae adran 13(2) yn disodli'r gofyn sydd ar awdurdod trafnidiaeth lleol i fod wedi'i fodloni y byddai cynllun partneriaeth ansawdd yn gweithredu polisiau a osodir yn y strategaeth fysiau. Mae'r diwygiad hwn yn ganlyniad i gychwyn adran 10 o'r Ddeddf, sy'n symud ymaith y gofyn ar awdurdod trafnidiaeth lleol i gynhyrchu strategaeth fysiau.
Mae adran 46 yn cyflwyno diffiniad statudol o gytundebau partneriaeth wirfoddol. Mae'r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 2 i'r Ddeddf. Mae'r darpariaethau yn Atodlen 2 yn diwygio'r prawf cystadleuaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (y prawf cystadleuaeth ar gyfer swyddogaethau bysiau).
Mae adrannau 64 a 65 yn diwygio adran 155 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae'r darpariaethau newydd yn ymestyn pwerau comisiynwyr traffig i osod cosbau pan nad yw gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu rhedeg yn ôl fel y'u cofrestrwyd, neu os yw'r gweithredyddion yn methu â darparu'r data perfformiad a ragnodwyd. Mae adran 64 yn ddarostyngedig i drefniadau trosiannol sy'n rhwystro defnyddio'r pwerau newydd mewn perthynas â methiannau a ddigwyddodd cyn i'r adran hon ddod i rym.
Mae adrannau 68 i 70 yn ymestyn pwerau'r Awdurdodau Trafnidiaeth i Deithwyr a'r Weithrediaeth, yr awdurdodau lleol, a Gweinidogion Cymru i roi cymhorthdal i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth o fathau penodol i deithwyr.
Mae adran 71 yn symud ymaith anableddau penodol a gofynion penodol ar awdurdodau lleol i geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â chwmniau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ddarpariaeth drosiannol yn yr Atodlen yn darparu na fydd ar unrhyw geisiadau am gydsyniad sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad y daw'r adran hon i rym bellach angen cydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae adran 75 yn galluogi Gweinidogion Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gyrff penodol arddangos gwybodaeth ragnodedig sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.
Caiff Rhan 6 ei chychwyn, ac eithrio adrannau 119 a 120. Mae adran 6 yn diwygio, o ran Cymru, y darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sy'n ymwneud â chynlluniau codi taliadau lleol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: