- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“taliadau GIG”) a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaeth GIG penodol (“treuliau teithio GIG”).
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”).
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo adnoddau a gofynion aelodau o briodasau amlgymar.
Mae rheoliad 3 yn darparu, pan fo person sy'n cael lwfans cyflogaeth a chymorth a bod sancsiwn yn ei erbyn o dan reoliad 63 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, bod hawl y person hwnnw i beidio â thalu taliadau GIG ac i gael taliad am dreuliau GIG yn cael ei chyfrifo fel na bai'r sancsiwn yn ei erbyn. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu ar gyfer diystyriadau penodol i bobl sy'n ymgymryd â gwaith esempt o dan reoliad 45 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pobl o dan 25 oed gael eu cynnwys wrth gyfrifo eu hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG a lwfans personol o swm sydd gymaint â'r swm ar gyfer person sy'n 25 oed neu'n hyn. Bydd hyn yn gymwys i bobl sydd naill ai yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth ac y dyfarnwyd cydran lwfans cyflogaeth a chymorth iddynt, neu sy'n analluog i weithio am gyfnod parhaus o 28 wythnos ers 27 Hydref 2008. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu ar gyfer cynnwys amryw o bremiymau wrth gyfrifo ar gyfer hawl i gael peidio â thalu taliadau GIG ac i gael taliad am dreuliau teithio GIG ac i'r bobl hynny sy'n cael lwfans cyflogaeth a chymorth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: