- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
14 Ionawr 2009
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
2. Mae adran 55 (Hawl disgyblion chweched dosbarth i gael eu hesgusodi rhag mynychu addoliad crefyddol) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i ddod i rym ar 9 Chwefror 2009 o ran Cymru.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Deddf 2006) i rym ar 9 Chwefror 2009.
Mae adran 55 o Ddeddf 2006 yn diwygio adran 71 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn galluogi disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir i dynnu'n ôl o addoliad crefyddol ac er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu wneud trefniadau i roi i ddisgyblion chweched dosbarth sy'n byrddio gyfle rhesymol i fynychu addysg grefyddol neu addoliad crefyddol yn unol â daliadau crefydd arbennig, os ydynt yn gofyn am hynny. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion arbennig a gynhelir i dynnu'n ôl o addoliad crefyddol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 1 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 37(1) a (2)(a) | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 38 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 39 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 40 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adrannau 43 — 45 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 47 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 53 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 156 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 166 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 175 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 184 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Atodlen 17 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Atodlen 18 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
| Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188 (1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis ar ôl hynny).
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: