- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
16 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Ionawr 2009
Yn dod i rym
9 Chwefror 2009
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn lle rheoliad 12 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(3), rhodder y canlynol —
12. Arrangements must be made to ensure that, so far as practicable, every pupil attending a maintained special school —
(a)receives religious education unless withdrawn from receiving such education in accordance with the wishes of the pupil’s parent; and
(b)attends religious worship unless withdrawn from attendance at such worship —
(i)in the case of a sixth-form pupil, in accordance with the pupil’s own wishes; and
(ii)in any other case, in accordance with the wishes of the pupil’s parent.”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 drwy roi rheoliad 12 newydd yn lle'r hen un. Y newid y mae'r rheoliad hwn yn ei wneud i'r rheoliad fel yr oedd yn flaenorol yw caniatáu i ddisgybl chweched dosbarth dynnu'n ôl o addoliad crefyddol mewn ysgol arbennig os dyna'i ddymuniad. Mae disgybl chweched dosbarth yn cael ei ddiffinio yn adran 71(8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg sy'n addas i anghenion disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn cysoni'r gyfraith â'r gyfraith ar gyfer ysgolion prif ffrwd yn adran 71 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
1998 p.31. Diwygiwyd adran 71 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 105. Amnewidiwyd adran 71(7) gan adran 55(8) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 71 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 88 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Medrau 2008 (p.25)) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1999/1780 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: