- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
3 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mawrth 2009
Yn dod i rym
26 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66, 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol, Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 26 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau Ffioedd Deintyddol” (“Dental Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006(2);
ystyr “Rheoliadau GDS” (“GDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006(3); ac
ystyr “Rheoliadau PDS” (“PDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006(4).
3. Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyferpynnau)—
(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)laboratory fabricated porcelain or composite veneers, including acid etch retention”; ac
(b)ym mharagraff (m), ar ôl y gair “other” mewnosoder “non-metallic”.
4. Yn Atodlen 2 i Reoliadau GDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—
(a)o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—
“Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment”; a
(b)o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—
“3.0”.
5. Yn Atodlen 2 i Reoliadau PDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—
(a)o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—
“Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment”; a
(b)o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—
“3.0”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau Ffioedd Deintyddol”) (O.S. 2006/491 (Cy.60)), Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau GDS”) (O.S. 2006/490 (Cy.59)) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau PDS”) (O.S. 2006/489 (Cy.58)).
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ffioedd Deintyddol. Mae Rheoliad 3(a) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r cyfeiriad at argaenau yn y rhestr o gyferpynnau y caniateir codi ac adennill ffi Band 3 mewn cysylltiad â hwy ac a geir yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol er mwyn ei gwneud yn glir na chaniateir defnyddio ond argaenau wedi eu gweithgynhyrchu mewn labordy.
Mae Rheoliad 3(b) yn diwygio'r cyfeiriad at “bridges in other materials” (pontydd mewn deunyddiau eraill) yn y rhestr o gyferpynnau y caniateir codi ac adennill ffi Band 3 mewn cysylltiad â hwy ac a geir yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol, er mwyn ei gwneud yn glir pa ddeunyddiau y caniateir eu defnyddio.
Mae Rheoliadau 4 a 5 yn eu trefn yn diwygio Rheoliadau GDS a Rheoliadau PDS drwy ychwanegu, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, weithgaredd deintyddol pellach i'w ddarparu o dan y contract neu'r cytundeb mewn cysylltiad â thriniaeth gadwraeth ar ddannedd cynradd claf sydd o dan 18 oed ar ddechrau cwrs o driniaeth, a bod y driniaeth honno'n denu 3.0 uned o weithgaredd deintyddol.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn gan na fyddant yn effeithio ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: