- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
14 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Ionawr 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council”) yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol;
ystyr “Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council’s Scheme”) yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
3.—(1) Y pwynt a bennir at ddibenion adran 9(4)(a) o'r Ddeddf yw pwynt 44 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
(2) Y swm sy'n cyfateb i'r pwynt a bennir ym mharagraff (1) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i'w gilydd o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.
4. I'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl)1995(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Un o'r gofynion ynghylch y telerau y penodir person i swydd, neu fod person yn dal swydd, yn unol ag adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynorthwywyr i grwpiau gwleidyddol) yw bod cyfradd y tâl blynyddol ar gyfer y swydd yn llai na £13,500 neu'n swm uwch yn ôl yr hyn a bennir drwy Orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu mai'r gyfradd dâl flynyddol fydd y mwyafswm a bennir o bryd i'w gilydd gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fel yr un sy'n gymwys i bwynt 44 ar y golofn gyflog ar eu graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.
O ran awdurdodau lleol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) 1995.
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(O.S. 1999/672) a paragraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i y Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: