Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
17.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforaethol ac i unrhyw berson oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.
(3) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.
