- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Mae unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall—
(a)wrth roi unrhyw wybodaeth gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 4 neu 12(6)(a), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu
(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 4(2), neu 12(6)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn methu â chydymffurfio â rheoliadau 9, 10 neu 11; neu
(b)yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 12, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Caniateir dwyn achos ynglyn â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.
(4) Ni chaniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd sy'n datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a
(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: