Gorfodi4

1

Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

2

At ddibenion galluogi awdurdod bwyd i wneud ei ddyletswydd o weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, mae swyddog awdurdodedig o'r awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau parthed caffael samplau o dan adran 29 o'r Ddeddf ag a osodir ar swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi gan reoliadau 6 i 8 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19909 (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “Rheoliadau 1990”), gyda'r addasiad fod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hynny at adran 29 o'r Ddeddf i'w gyfrif yn gyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan reoliad 5(5).

3

Rhaid i bob awdurdod bwyd roi'r fath gymorth a gwybodaeth i Weinidogion Cymru ac i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ag a ofynnir yn rhesymol ganddynt yng nghyswllt gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.