Gwaharddiadau
3.—(1) Ni chaiff neb wneud gweithrediadau masnachol parthed jeli cwpanau bach sydd dan reolaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1), cymerir hyd onis profir i'r gwrthwyneb fod unrhyw jeli cwpanau bach sy'n cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd perthnasol yn jeli cwpanau bach sydd dan reolaeth.
(3) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw un o'r ychwanegion bwyd perthnasol wrth weithgynhyrchu unrhyw jeli cwpanau bach a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(4) At ddibenion paragraff (3), cymerir hyd onis profir i'r gwrthwyneb fod unrhyw jeli cwpanau bach wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(5) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gwaharddiad ym mharagraff (1) neu (3) yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau.