19.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F1... 18; neu
(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F2... 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y [F3rheoliad hwnnw],
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 19(1)(a) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(7)(a)
F2Geiriau yn rhl. 19(1)(b) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(7)(b)(i)
F3Geiriau yn rhl. 19(1)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(7)(b)(ii)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhlau. 19-21 cymhwyso (C.) (31.1.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1