RHAN 2Y PRIF DDARPARIAETHAU

Rhwystro etc. swyddogionI1C119

1

Bydd unrhyw berson sydd—

a

yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F1... 18; neu

b

yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F2... 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y F3rheoliad hwnnw,

yn euog o dramgwydd.

2

Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

a

yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

b

yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn euog o dramgwydd.

3

Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.