Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Yr hawl i apelio

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

(a)Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);

(b)Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu

(c)Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth), apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achosion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

(5Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod neu ei thynnu'n ôl, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i gwrthod neu wedi'i thynnu'n ôl, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)bod yr amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod y gymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôlawedi dod i ben heb fod apêl wedi'i chyflwyno; a

(b)pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêlawedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i gollwng.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd—

(a)os oes gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid, hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad;

(b)os oes gorchymyn gwahardd, hysbysiad gwahardd brys, gorchymyn gwahardd brys neu orchymyn rheoli brys wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad yn unol ag adran 11, 12 neu 13 o'r Ddeddf;

(c)os yw cymeradwyaeth y sefydliad wedi'i hatal yn unol ag Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004; neu

(ch)os yw'r sefydliad wedi'i atal rhag gweithredu ar ôl i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno.

(7Yn y rheoliad hwn mae i bob un o'r termau “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”, “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”, “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid” a “hysbysiad camau cywiro” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.