RHAN 2Y PRIF DDARPARIAETHAU

Yr hawl i apelio12

1

Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

a

Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);

b

Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu

c

Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth), apelio i lys ynadon.

2

Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 198012 yn gymwys i'r achosion.

3

Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

4

Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

5

Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod neu ei thynnu'n ôl, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i gwrthod neu wedi'i thynnu'n ôl, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—

a

bod yr amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod y gymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôlawedi dod i ben heb fod apêl wedi'i chyflwyno; a

b

pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêlawedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i gollwng.

6

Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd—

a

os oes gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid, hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad;

b

os oes gorchymyn gwahardd, hysbysiad gwahardd brys, gorchymyn gwahardd brys neu orchymyn rheoli brys wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad yn unol ag adran 11, 12 neu 13 o'r Ddeddf;

c

os yw cymeradwyaeth y sefydliad wedi'i hatal yn unol ag Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004; neu

ch

os yw'r sefydliad wedi'i atal rhag gweithredu ar ôl i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno.

7

Yn y rheoliad hwn mae i bob un o'r termau “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”, “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”, “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid” a “hysbysiad camau cywiro” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.