xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3375 (Cy.297)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009

Gwnaed

21 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

6 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1), a phob p er galluogi arall (2), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

1.  Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom a dangosir y cynigion cysylltiedig ar gyfer ffyrdd ymyl â llinellau gwynion wedi'u torri ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd, yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffyrdd dosbarthiadol ar y dyddiad pan fydd lywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(i)ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn rhif HA 10/2 WAG 2 sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009”, wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Llywodraeth Cynulliad Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;

(ii)ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470);

(iii)“y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn.

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ionawr 2010 a'i enw yw “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009”

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

Jeff Collins

Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a lywodraethu Trafnidiaeth

Llywodraeth Cynulliad Cymru

21 Rhagfyr 2009

ATODLEN 1LLWYBRY GEFNFFORDD NEWYDD

Mae llwybr y gefnffordd newydd i'r gogledd o anfair-ym-Muallt ac ychydig i'r de o'r Bontnewydd ar Wy yn Sir Powys fel a ganlyn:—

ATODLEN 2DARNAU O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO A BODYN GEFNFFORDD

Dyma lwybrau'r darnau o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yn Sir Powys:—

(1y darn hwnnw o'r gefnffordd (yr A470) y mae ei hyd o gwmpas 250 o fetrau a leolir rhwng pwynt yn gyfagos i'r eiddo a elwir Gwern-yfed-fawr (wedi'i farcio 1 ar y plan a adneuwyd) a phwynt rhyw 100 o fetrau i'r de o'i chyffordd â'r U1326 Ffordd lanfair-ym-Muallt (wedi'i farcio 2 ar y plan a adneuwyd).

(2y darn hwnnw o gefnffordd yr A470, y mae ei hyd o gwmpas 4.95 cilometr, a leolir rhwng pwynt sy'n gyfagos at ei chyffordd â mynedfa breifat sy'n arwain at yr eiddo a elwir Pen-y-banc (wedi'i farcio 3 ar y plan a adneuwyd) a chan gynnwys Pont Nant Dulas yng Nghwm-bach a Phont-ar-Ithon, a phwynt sy'n gyfagos i'r eiddo a elwir Dolithon, i'r de o'r Bontnewydd ar Wy (wedi'i farcio 4 ar y plan a adneuwyd).

(2)

Yn rhinwedd O.S . 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf lywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach wedi'u trosglwyddo i WeinidogionCymru o ran Cymru.