- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom a dangosir y cynigion cysylltiedig ar gyfer ffyrdd ymyl â llinellau gwynion wedi'u torri ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd, yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffyrdd dosbarthiadol ar y dyddiad pan fydd lywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd.
4. Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(i)ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn rhif HA 10/2 WAG 2 sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009”, wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Llywodraeth Cynulliad Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
(ii)ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470);
(iii)“y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn.
5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ionawr 2010 a'i enw yw “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lanconwy (yr A470) (Cwm-bach i'r Bontnewydd ar Wy) 2009”
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
Jeff Collins
Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a lywodraethu Trafnidiaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru
21 Rhagfyr 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: